Ddiymateb a ddim yn anadlu
Amcanion dysgu
- Dysgu sut mae adnabod pan na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun nad yw’n ymateb nac yn anadlu
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad fideo.
Cymorth cyntaf i rywun sy'n ddiymateb nac yn anadlu

Cam 1
Ni fydd rhywun diymateb yn ateb nac yn symud os byddwch chi’n galw ei enw neu’n tapio ei ysgwyddau. Os oedolyn yw’r unigolyn sy'n ddiymateb, ceisiwch ysgwyd ei ysgwyddau’n ysgafn.

Cam 2
Edrychwch i weld a yw’n anadlu. Gwyrwch ei ben yn ôl – allwch chi weld ei frest yn symud? Allwch chi ei glywed, ei weld neu ei deimlo’n anadlu? Os na allwch, nid yw’n anadlu.

Cam 3
Dywedwch wrth oedolyn a ffoniwch 999 ar unwaith.

Cam 4
Cywasgwch y frest drwy wthio’n gadarn yng nghanol ei frest i fyny ac i lawr.
Gwthiwch y frest yn galed ac yn gyflym ar gyfradd reolaidd nes bydd help yn cyrraedd, neu dywedwch wrth oedolyn am wneud hynny.
Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb nac yn anadlu?
Dysgu
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb nac yn anadlu.
0.4mb
Ddiymateb a ddim yn anadlu - gweithgaredd dysgu
Lawrlwytho Ddiymateb a ddim yn anadlu - gweithgaredd dysgu (DOCX)
1.2mb
Ddiymateb a ddim yn anadlu – Powerpoint dysgu
Lawrlwytho Ddiymateb a ddim yn anadlu – Powerpoint dysgu (PPTX)
0.4mb
Ddiymateb a ddim yn anadlu - cerdyn sut i helpu
Lawrlwytho Ddiymateb a ddim yn anadlu - cerdyn sut i helpu (PDF)
Ymarfer
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ymarfer helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.4mb
Ddiymateb a ddim yn anadlu - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer
Lawrlwytho Ddiymateb a ddim yn anadlu - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer (DOCX)
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i gofio a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.

Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.