Gwyliwch y ffilm hon i weld a allwch chi adnabod yr holl ffyrdd y mae’r Groes Goch yn helpu pobl.

Sut mae’r Groes Goch yn dangos caredigrwydd?

British Red Cross volunteer sits on a bench with a woman. Gwirfoddolwr y Groes Goch Brydeinig yn eistedd ar fainc gyda menyw.

Mae’r Groes Goch yn cefnogi pobl y mae angen help arnynt gartref neu bobl a all fod yn unig.

A group of refugees and asylum seekers that the Red Cross supports.  Grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches y mae’r Groes Goch yn eu cefnogi.

Mae’r Groes Goch yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Gall y rhain fod yn bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd trafferthion fel rhyfel. Rydyn ni hefyd yn helpu pobl i ddod o hyd i’w teuluoedd os ydynt wedi cael eu gwahanu oddi wrthynt.

A family who have fighting in their country and are supported by the Red Cross. Teulu sydd yn byw mewn wlad ble mae rhyfeli ac yn cael eu cefnogi gan y Groes Goch.

Mae’r Groes Goch Brydeinig yn gweithio gyda chymdeithasau eraill y Groes Goch a’r Cilgant Coch ar draws y byd er mwyn helpu pobl y mae brwydro yn digwydd yn eu gwlad. Rydyn ni’n eu cefnogi drwy roi pethau fel bwyd, dŵr a gofal iechyd iddyn nhw.

A British Red Cross volunteer standing with other emergency services. Gwirfoddolwr y Groes Goch Brydeinig yn sefyll gyda gwasanaethau brys eraill.

Pan fo argyfwng, mae’r Groes Goch yn helpu pobl gyda chymorth cyntaf, bwyd a dŵr, ac os oes angen, rhywle i gysgu.

Nawr tynnwch lun neu ysgrifennwch beth mae caredigrwydd yn ei olygu i chi.