Archwilio gwylwyr
Yn yr adran hon, byddwch chi’n dysgu am effaith y gwyliwr*, y rhesymau posibl pam na fydd pobl bob amser yn teimlo eu bod yn gallu helpu, beth sy’n cymell pobl i helpu a sut gallwch chi roi caredigrwydd ar waith.
*Mae effaith y gwyliwr yn disgrifio sefyllfa lle bydd llawer o bobl yn gweld rhywun y mae angen help arno a dim un ohonyn nhw’n camu ymlaen i helpu. Rydym yn gwybod y bydd pobl yn fwy tebygol o helpu rhywun y mae angen cymorth cyntaf arno os byddant yn deall effaith y gwyliwr a’r rhwystrau rhag gweithredu.
Amcanion dysgu
- Dysgwch sut i egluro beth yw 'Effaith y gwyliwr'
- Dysgwch i nodi pam y gallai rhai pobl oedi cyn gweithredu a beth sy'n ysbrydoli eraill weithredu
- Ymarferwch werthuso sut mae pobl yn ymateb mewn sefyllfaoedd cymorth cyntaf
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Dysgu
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn archwilio beth yw ystyr effaith y gwyliwr a pha effaith mae’n gallu ei chael.
0.4mb
Archwilio Gwylwyr – gweithgaredd dysgu
Ymarfer
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn archwilio effaith y gwyliwr mewn sefyllfa go iawn a beth wnaeth helpu rhywun i’w goresgyn.
0.4mb
Effaith y gwyliwr ar waith – gweithgaredd ymarfer
Lawrlwytho Effaith y gwyliwr ar waith – gweithgaredd ymarfer (DOCX)
Adrannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Dewis helpu
Archwilio beth sy’n cymell pobl i helpu eraill a darganfod eich rhinweddau helpu eich hun.
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.
Rhannu a chofio
Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.
Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.