Gwaedu’n drwm

Dysgwch sut i helpu rhywun sy'n gwaedu'n drwm.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn gwaedu’n drwm
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn gwaedu’n drwm
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n gwaedu’n drwm
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad ffilm.
Beth i'w wneud os bydd rhywun yn gwaedu'n drwm

Cam 1
Rhowch bwysau ar y clwyf gan ddefnyddio beth bynnag sydd ar gael i atal neu arafu llif y gwaed (eich llaw, cadach, neu ddillad).

Cam 2
Ffoniwch 999 cyn gynted â phosibl, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.

Cam 3
Daliwch ati i bwyso ar y clwyf nes bydd help yn cyrraedd.
Allwch chi helpu rhywun sy’n gwaedu'n drwm?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun yn gwaedu'n drwm.
0.4mb
Gwaedu – gweithgaredd dysgu
0.3mb
Gwaedu - arweiniad sgilau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sy'n gwaedu'n drwm.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Gwaedu’n drwm - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Lawrlwytho Gwaedu’n drwm - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl (PDF)
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Torri asgwrn
Dysgwch sut i helpu rhywun sydd wedi torri asgwrn

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.