Llosgiadau
Dysgwch sut i helpu rhywun sydd wedi llosgi.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun wedi llosgi
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun wedi llosgi
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannwch rywbeth creadigol i roi gwybod i eraill sut y gallant helpu rhywun sydd â llosg
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad ffilm.
Beth i'w wneud os bydd rhywun yn llosgi ei hun
Cam 1
Efallai ei fod wedi cyffwrdd rhywbeth poeth ac efallai fod ei groen yn goch ac yn boenus ac efallai fod pothelli arno.
Cam 2
Oerwch y llosg o dan ddŵr oer sy’n llifo am o leiaf ugain munud.
Cam 3
Ar ôl i’r llosg gael ei oeri, gorchuddiwch y llosg â chling ffilm neu fag plastig glân.
Cam 4
Ffoniwch 999 os ydych chi’n credu bod y llosg yn ddifrifol. Gofynnwch am gyngor meddygol os na fyddwch yn siŵr neu os bydd plentyn wedi cael ei losgi.
Pa mor hyderus ydych chi'n teimlo ynglŷn â helpu rhywun sydd wedi llosgi?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun wedi llosgi.
0.4mb
Llosgiadau - gweithgaredd dysgu
0.1mb
Llosgiadau - arweiniad sgiliau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sydd wedi llosgi.
0.4mb
Sgil cymorth cyntaf - ymarfer syniadau gweithgaredd
Lawrlwytho Sgil cymorth cyntaf - ymarfer syniadau gweithgaredd (DOCX)
0.2mb
Llosgiadau - ymarfer chwarae rôl
Rhannu a chofio
Neu ewch i...
Tagu
Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n tagu.
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.