Llosgiadau
Sut i helpu rhywun sydd wedi llosgi.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun wedi llosgi
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun wedi llosgi
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sydd wedi llosgi
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodi i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad fideo.
Triniaeth cymorth cyntaf ar gyfer llosgiadau
Cam 1
Efallai fod yr unigolyn wedi cyffwrdd â rhywbeth poeth ac efallai y bydd ei groen yn boeth ac yn boenus.
Cam 2
Ewch â’r unigolyn at dap dŵr oer a daliwch y llosg o dan ddŵr oer sy’n rhedeg am o leiaf 20 munud.
Cam 3
Tra byddwch chi’n helpu i oeri’r llosg, anfonwch rywun i nôl oedolyn.
Cam 4
Ar ôl i’r llosg oeri, gorchuddiwch y llosg â chling ffilm neu fag plastig glân.
Ffoniwch 999 os byddwch chi'n credu bod y llosg yn un difrifol.
Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod sut i helpu rhywun sydd wedi llosgi?
Dysgu
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i helpu rhywun sydd wedi llosgi.
0.4mb
Llosgiadau - gweithgaredd dysgu
1.6mb
Llosgiadau - Powerpoint dysgu
0.2mb
Llosgiadau - cerdyn sut i helpu
Ymarfer
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ymarfer helpu rhywun sydd wedi llosgi.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.4mb
Llosgiadau - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer
Taflen waith lliwio
Lawrlwythwch ac argraffwch y daflen waith lliwio hon i’w defnyddio i ddysgu gartref neu i rannu’r sgìl ag eraill
0.4mb
Taflen waith lliwio – llosgiadau
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i gofio a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.
Neu ewch i...
Tagu
Dysgwch sut mae helpu rhywun sy’n tagu.
Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.
Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.