Dysgu cymorth cyntaf i bobl ifanc 11-18 oed
Croeso i Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau cymorth cyntaf pwysig.
Gallwch archwilio hyd at 17 o sgiliau cymorth cyntaf gwahanol drwy ffilmiau, gweithgareddau a chwisiau. Byddwch chi’n dysgu sgiliau cymorth cyntaf mewn camau syml, gyda chamau allweddol i’w cymryd er mwyn i chi allu cofio’n hawdd beth i’w wneud pan fydd angen help ar rywun.
Yn ogystal â dysgu ac ymarfer sgiliau cymorth cyntaf, byddwch chi’n dysgu am helpu eraill, diogelwch a lles. Hefyd, mae awgrymiadau i’ch helpu i gofio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu a syniadau ar gyfer rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.
Amcanion dysgu
- Trafod cysyniadau cymorth cyntaf a helpu eraill
Cyflwyniad i’r Groes Goch
Yn ogystal ag addysgu sgiliau cymorth cyntaf i bobl, mae’r Groes Goch yn helpu pobl yn y DU a ledled y byd mewn ffyrdd eraill. Gwyliwch y ffilm am y Groes Goch Brydeinig, a’r gwaith mae’n ei wneud.
Meddwl, paru, rhannu
Meddyliwch am rôl caredigrwydd a helpu pobl eraill mewn cymorth cyntaf. Ysgrifennwch eich syniadau mewn ymateb i’r cwestiynau isod, neu trafodwch nhw gyda phartner.
- A yw helpu pobl eraill yn bwysig?
- Beth mae cymorth cyntaf yn ei olygu?
- Pa rinweddau personol y gallai fod gan rywun a allai ei alluogi i helpu eraill?
- Beth allai atal rhywun rhag helpu person arall? Sut gallai oresgyn hyn?
- A yw helpu eraill a dysgu sgiliau cymorth cyntaf yn newid ein cymuned neu gymdeithas?
Tystysgrifau ysgolion uwchradd
Gallwch chi lwytho tystysgrif cyfranogiad i lawr i gydnabod eich pobl ifanc a gymerodd ran yn Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf.
0.3mb
Tystysgrifau ysgolion uwchradd
Parhau i ddysgu
Nawr mae’n amser dechrau dysgu sgiliau cymorth cyntaf.
Gallwch ddefnyddio’r sgiliau hyn i helpu eraill.
Dewiswch o blith y dolenni isod.
Neu ewch i...
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.
Rhannu a chofio
Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.