Ddiymateb a ddim yn anadlu

Dysgwch sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb nac yn anadlu.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun nad yw’n ymateb nac yn anadlu

Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y ddolen isod i weld y trawsgrifiad fideo.
Sut i helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu

Cam 1.
Ni fydd rhywun sy’n ddiymateb yn ateb nac yn symud os byddwch chi’n galw ei enw neu’n tapio ei ysgwyddau. Os mai oedolyn yw’r sawl sy’n ddiymateb, ceisiwch ysgwyd ei ysgwyddau’n ysgafn.

Cam 2.
Edrychwch i weld a yw’n anadlu. Gwyrwch ei ben yn ôl – allwch chi weld ei frest yn symud? Allwch chi ei glywed, ei weld neu ei deimlo’n anadlu? Os na allwch, nid yw’n anadlu.

Cam 3.
Gofynnwch i rywun ffonio 999 ar unwaith.

Cam 4.
Cywasgwch y frest drwy wthio’n gadarn yng nghanol ei frest i fyny ac i lawr. Gwthiwch y frest yn galed ac yn gyflym ar gyfradd reolaidd.

Cam 5.
Gwnewch hyn dro ar ôl tro nes bydd help yn cyrraedd.
Allwch chi helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu.
0.4mb
Ddiymateb nac yn anadlu – gweithgaredd dysgu
Download Ddiymateb nac yn anadlu – gweithgaredd dysgu (DOCX)
0.2mb
Ddiymateb nac yn anadlu – arweiniad sgilau dysgwyr
Download Ddiymateb nac yn anadlu – arweiniad sgilau dysgwyr (PDF)
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun nad yw'n ymateb nac yn anadlu.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Ddim yn ymateb nac yn anadlu - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Download Ddim yn ymateb nac yn anadlu - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl (PDF)
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael
Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael.

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.