Anaf i’r pen
Sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun wedi cael anaf i’r pen
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun wedi cael anaf i’r pen
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodi i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad fideo.
Cymorth cyntaf ar gyfer anaf i’r pen

Cam 1
Efallai ei fod wedi taro ei ben. Gallai ei ben brifo a gall bwmp ymddangos arno.

Cam 2
Helpwch yr unigolyn i orffwys.

Cam 3
Daliwch rywbeth oer ar y man lle mae wedi taro ei ben (fel bag o bys wedi’u rhewi wedi’i lapio mewn lliain sychu llestri).

Cam 4
Dywedwch wrth oedolyn. Os bydd yn gysglyd, yn chwydu neu wedi drysu, ffoniwch 999.
Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen?
Dysgu
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen.
0.4mb
Anaf i'r pen - gweithgaredd dysgu
1.2mb
Anaf i’r pen – Powerpoint dysgu
0.1mb
Anaf i'r pen - cerdyn sut i helpu
Ymarfer
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ymarfer sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.4mb
Anaf i’r pen - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer
Lawrlwytho Anaf i’r pen - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer (DOCX)
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i gofio a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Ddiymateb ond yn anadlu
Dysgwch sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb ond yn anadlu.

Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.