Tagu
Sut i helpu rhywun sy'n tagu.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn tagu
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn tagu
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n tagu
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy'r sleidiau isod i wylio'r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad fideo.
Cymorth cyntaf i rywun sy'n tagu

Cam 1
Os bydd rhywun yn tagu, dywedwch wrtho am geisio pesychu. Efallai y bydd yn dal ei frest neu ei wddf.

Cam 2
Os na fydd yr unigolyn yn gallu siarad, anadlu na phesychu, plygwch ef ymlaen a tharwch ef â llaw fflat yn galed ar ei gefn rhwng y palfeisiau hyd at bum gwaith.

Cam 3
Os bydd yn dal i dagu, dywedwch wrth oedolyn a ffoniwch 999. Daliwch ati i’w daro ar ei gefn nes y bydd yn gallu anadlu eto, neu nes bydd help yn cyrraedd.
Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod sut i helpu rhywun sy'n tagu?
Dysgu
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i helpu rhywun sy'n tagu.
0.4mb
Tagu - gweithgaredd dysgu
1.5mb
Tagu – cyflwyniad PowerPoint dysgu
0.2mb
Tagu – cerdyn sut i helpu
Ymarfer
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ymarfer helpu rhywun sy'n tagu
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.4mb
Tagu - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i gofio a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Anaf i'r pen
Dysgu sut i helpu rhywun sydd ag anaf i'r pen.

Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.