Trawiad/ffit/epilepsi
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn cael ffit
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn cael ffit
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n cael ffit
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm.
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad ffilm.
Cymorth cyntaf ar gyfer ffit
Cam 1.
Efallai fod y person wedi cwympo. Mae’n bosibl y bydd ei gorff yn mynd yn stiff ac y bydd yn gwneud symudiadau gwinglyd sydyn. Efallai y bydd ganddo ewynboer o amgylch ei geg hefyd.
Cam 2.
Defnyddiwch flanced neu ddillad i amddiffyn ei ben rhag anaf. Peidiwch â’i atal yn gorfforol.
Cam 3.
Ffoniwch 999 os bydd angen, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.
Cam 4.
Ar ôl y ffit, helpwch yr unigolyn i orffwys ar ei ochr gyda’i ben yn gwyro’n ôl.
Allwch chi helpu rhywun sy’n cael ffit?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun yn cael ffit.
0.2mb
Ffitiau ac epilepsi – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Ffitiau ac epilepsi – arweiniad sgiliau dysgwyr
Lawrlwytho Ffitiau ac epilepsi – arweiniad sgiliau dysgwyr (PDF)
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sy'n cael ffit.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Ffitiau / epilepsi - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Lawrlwytho Ffitiau / epilepsi - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl (PDF)
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.
Neu ewch i...
Adwaith alergaidd difrifol
Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cael adwaith alergaidd difrifol
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.